To report, contact:

The Police on 101

Or contact:

Crimestopers on 0800555111

Dyna Lygredigaeth.

Dyna Lygredigaeth.

Rhowch gynnig ar y cwis a helpwch ni i atal llygredigaeth yn y gweithle

Allwch chi adnabod yr arwyddion? Ydych chi’n gwybod beth yw llygredigaeth? Rhowch gynnig ar y cwis i weld faint wyddoch chi am lygredigaeth.

ATAL.

Rhowch gynnig ar y cwis

Previous

Derbyn tocynnau i gêm pêl-droed yn Uwch Gyngrair Lloegr yn gyfnewid am gontract busnes. Dyna lygredigaeth.

CYWIR

Mae derbyn rhoddion o unrhyw fath yn ystod proses dendro ddilys yn dystiolaeth o gamymddwyn.

Next
Previous

Trefnu pryd o fwyd am ddim i'ch cyflogeion. Dyna lygredigaeth.

ANGHYWIR

Ond... pe baech yn cyhoeddi yn ystod y pryd o fwyd eich bod am iddynt weithio 2 awr ychwanegol yr wythnos honno heb ddigolledu ychwanegol, gellid ystyried y pryd o fwyd am ddim yn ymgais i lwgrwobrwyo. Dyna lygredigaeth.

Next
Previous

Talu cwmni am waith nad yw erioed wedi cael ei gwblhau am fod y perchennog yn ffrind i chi. Dyna lygredigaeth.

CYWIR

Dylai contractau bob amser gael eu cyflawni cyn bod unrhyw daliad yn cael ei wneud.

Next
Previous

Gadael i rywun eich llwgrwobrwyo fel y byddwch yn ei ffafrio yn y broses dendro. Dyna lygredigaeth.

CYWIR

Mae gosod tendrau mewn ffordd sy'n sicrhau bod cynnig y cwmni penodol yn llwyddiannus yn llwgr.

Next
Previous

Derbyn y defnydd o lety gwyliau i'ch teulu gan gydweithiwr cyfeillgar. Dyna lygredigaeth.

ANGHYWIR

Ond... pe baech yn rheolwr caffael ac yn derbyn y defnydd o lety gwyliau gan gontractwr sy'n ymgynnig, dyna lygredigaeth.

Next
Previous

Cymdeithasu â swyddog penderfyniadau y tu hwnt i'r hyn sy'n rhesymol yn ystod y broses gaffael rydych yn rhan ohoni. Dyna lygredigaeth.

CYWIR

Gall cymdeithasu â swyddogion penderfyniadau gael ei ystyried yn ymgais i ddylanwadu drwy gyfeillgarwch.

Next
Previous

Gofyn i drafod y marc a gawsoch am aseiniad gyda'ch darlithydd yn breifat. Dyna lygredigaeth.

ANGHYWIR

Ond... os daethoch â rhodd i'r cyfarfod, gallai hyn fod yn ymgais i ddylanwadu ar benderfyniad y darlithydd. Dyna lygredigaeth.

Next