Sut i adnabod yr arwyddion yn y gweithle
Mae llygredigaeth yn y gweithle ar ei lefel uchaf erioed ers 50 mlynedd. Darllenwch astudiaethau achos go iawn o achosion diweddar o lygredigaeth er mwyn cael gwybod mwy.
Dyna Lygredigaeth.
Dyna Lygredigaeth.
Sut i adnabod yr arwyddion yn y gweithle
Mae llygredigaeth yn y gweithle ar ei lefel uchaf erioed ers 50 mlynedd. Darllenwch astudiaethau achos go iawn o achosion diweddar o lygredigaeth er mwyn cael gwybod mwy.
Senarios go iawn
DERBYN LLWGRWOBRWYON MEWN BUSNES?
Y drosedd:
Yn anffodus, ildiodd rheolwr prosiect tai i demtasiwn llwgrwobr, gan amharu ar uniondeb contractau a oedd yn cael eu dyfarnu gan y Cyngor. Derbyniodd y rheolwr £125,000, a hynny’n anghyfreithlon, oddi wrth gontractwr a oedd wedi ennill contract gwerth £2 filiwn am waith ar eiddo’r cyngor. O ganlyniad, collodd y cyngor tua £720,000 yn ôl yr amcangyfrif, ond roedd y rheolwr ar ei ennill o tua £400,000. Roedd camymddygiad y rheolwr yn ymestyn y tu hwnt i enillion ariannol, am ei fod hefyd wedi cael ei demtio â thocynnau i weld gemau pêl-droed Uwch Gynghrair Lloegr, prydau bwyd drud a theithiau golff dethol. At hynny, mabwysiadodd y rheolwr arferion twyllodrus drwy dalu cwmnïau am waith arolygu diangen neu anghyflawn.
Darganfod y drosedd:
Yn ffodus, dygwyd sylw at ddrwgweithredoedd y rheolwr gan gydweithiwr sylwgar a wnaeth roi gwybod i’r adran archwilio mewnol. Drwy’r weithred ddewr hon, dechreuwyd datgelu’r gwirionedd a dwyn y rheolwr i gyfrif am ei weithredoedd.
Beth ddigwyddodd wedyn:
Ar ôl wynebu goblygiadau ei weithredoedd anghyfreithlon, cyfaddefodd y rheolwr prosiect tai bum cyhuddiad o gynllwynio i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, un cyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, ac un cyhuddiad o dwyll drwy gamymddwyn mewn rôl. O ganlyniad, cafodd y rheolwr ei ddedfrydu i dair blynedd a hanner yn y carchar. Hefyd, cafodd tri o bobl eraill a oedd yn rhan o’r twyll ddedfrydau gohiriedig o garchar, a amlygodd fod cyfrifoldeb ar y cyd am gynnal ymddygiad moesegol.
Diweddglo:
Mae’r achos hwn yn atgoffa pawb am bwysigrwydd ymddiriedaeth, uniondeb, a
thryloywder mewn arferion busnes. Mae’r hyn a ddatgelwyd am benderfyniad y rheolwr prosiect tai i dderbyn llwgrwobrwyon ac ymddwyn yn dwyllodrus yn tanlinellu arwyddocâd safonau moesegol a rôl hollbwysig unigolion gwyliadwrus i ddatgelu achosion o gamymddwyn. Drwy atebolrwydd a gweithredu di-oed, gallwn fynd ati i greu tirwedd fusnes sy’n seiliedig ar degwch, gonestrwydd, a mynnu uniondeb gyda’n gilydd.
Cymdeithasu i ennill busnes (Contract i ailadeiladu maes chwarae antur ar ôl difrod tân)
Y drosedd:
Mewn achos a oedd yn peri pryder, dilynodd peiriannydd trydan arferion anfoesegol drwy ffafrio contractwr trydan penodol yn gyfnewid am fuddiannau personol. Roedd y driniaeth ffafriol hon yn cynnwys mynd i ddigwyddiadau lletygarwch, cymdeithasu â’r contractwr, a hyd yn oed derbyn gwaith trydan preifat ar ei eiddo personol. O ganlyniad, newidiodd y peiriannydd fanylebau tendrau er mwyn sicrhau mai’r contractwr hwn a enillodd nifer o brosiectau i ailwefru ysgolion.
Darganfod y drosedd:
Datgelwyd y camymddygiad pan ddechreuodd unigolyn, a oedd wedi sefydlu’r cwmni trydan dan sylw ar y cyd yn wreiddiol, flino ar yr arferion anfoesegol. Dewisodd yr unigolyn gael gwared ar ei gyfranddaliadau yn y cwmni a chysylltodd â’r cyngor, er mwyn datgelu’r honiadau.
Beth ddigwyddodd wedyn:
Er na chafodd yr achos hwn ei uwchgyfeirio at awdurdodau gorfodi’r gyfraith, wynebodd y peiriannydd trydan broses ddisgyblu o ganlyniad i hyn. Cafodd ei ddiswyddo ar sail y canfyddiadau canlynol:
Diweddglo:
Er na chymerwyd camau cyfreithiol, mae’r achos hwn yn tanlinellu pwysigrwydd uniondeb a thryloywder proffesiynol mewn cydberthnasau busnes. Gwnaeth ymddygiad y peiriannydd beryglu tegwch a didueddrwydd prosesau tendro, gan achosi iddo golli ei swydd yn y pen draw. Drwy gynnal safonau moesegol a meithrin diwylliant o atebolrwydd gallwn greu amgylchedd busnes sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth ac uniondeb.
Cynnal busnes ar sail cyfnewid ffafrau (ffafrau rhywiol i ddylanwadu ar benderfyniad)
Y drosedd:
Mewn achos a oedd yn peri pryder, wynebodd uwch-ddarlithydd sefyllfa amheus gyda myfyrwraig ar ôl darlith. Wrth iddynt gerdded i ffwrdd o’r campws, gwnaeth y fyfyrwraig, a oedd newydd fod yn bresennol yn sesiwn y darlithydd, ei wahodd i’w thÅ· am baned. Yn ystod eu sgwrs, aeth hi ati’n gynnil i godi mater ei haseiniad asesu ar gyfer y modiwl roedd yn ei addysgu. Gan ddweud pa mor bwysig oedd cael gradd dda, awgrymodd yn gynnil y byddai’n fanteisiol iddo sicrhau ei bod yn cael marc da.
Beth ddigwyddodd wedyn:
Mae’r digwyddiad hwn yn codi pryderon ynglÅ·n ag ymgais bosibl i lwgrwobrwyo. Mae sylwadau’r fyfyrwraig, sy’n awgrymu trefniant cyfnewid ffafrau, yn awgrymu defnydd amhriodol o ddylanwad i sicrhau canlyniad ffafriol. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, mae’n hollbwysig bod Dr. B, yr uwch-ddarlithydd, yn ymdrin â’r sefyllfa mewn ffordd foesegol a phroffesiynol.
Cam Gweithredu a Argymhellir:
Dylai Dr. B wrthod, yn gadarn ac yn gwrtais, drafod y mater â’r fyfyrwraig ymhellach. Dylai esbonio iddi nad yw’n briodol ystyried ceisiadau o’r fath ac esgusodi ei hun a gadael yn ddi-oed. Hefyd, mae’n hanfodol bod Dr. B yn dweud wrth uwch-reolwr yn y coleg am y digwyddiad, gan sicrhau ei fod yn rhoi gwybod am y manylion cyn gynted ag y bo modd.
Diweddglo:
Mae’r achos hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cadw ffiniau moesegol ac uniondeb mewn amgylcheddau academaidd. Mae ymateb Dr. B i wrthod cynnig y fyfyrwraig yn syth a rhoi gwybod am y digwyddiad yn dangos ymrwymiad i gynnal safonau proffesiynol. Drwy ymdrin â’r sefyllfaoedd hyn yn ddi-oed ac yn briodol, gallwn feithrin amgylchedd addysgol sy’n seiliedig ar degwch, cydraddoldeb, ac uniondeb academaidd.
Dyfarnu tendrau i’ch ffrindiau
Y drosedd:
Mewn achos a oedd yn ymwneud ag ailadeiladu maes chwarae antur ar ôl difrod tân, camfanteisiodd swyddog a neilltuwyd i’r prosiect ar y sefyllfa drwy beidio â dilyn gweithdrefnau caffael priodol. Er gwaethaf gwerth sylweddol y gwaith dan sylw, manteisiodd y swyddog ar y ffaith ei fod yn cael ei ddosbarthu’n ‘waith yswiriant’ er mwyn peidio â dilyn y broses dendro ofynnol. Yn lle hynny, dyfarnodd y swyddog y contract i ffrind personool a oedd wedi dechrau busnes yn ddiweddar. Hefyd, gwnaeth y swyddog helpu ei ffrind gyda sawl agwedd wahanol ar y fenter newydd.
Roedd y contract i ailadeiladu yn werth £66,000. Fodd bynnag, gwnaeth y swyddog nid yn unig osgoi dilyn protocolau sefydledig ond gwnaeth hefyd godi pryderon ynglŷn â ffafriaeth a gwrthdaro buddiannau o bosibl.
Beth ddigwyddodd wedyn:
Ar ôl proses ddisgyblu fewnol, cafodd y swyddog ei ddiswyddo. Er gwaetha’r cyfle i apelio yn erbyn y penderfyniad, methodd y swyddog â dod i’r gwrandawiad, a arweiniodd at gadarnhau’r penderfyniad i’w ddiswyddo.
Diweddglo:
Mae’r achos hwn yn tanlinellu pwysigrwydd cadw at brosesau caffael tryloyw a
moeseg broffesiynol. Drwy anwybyddu’r gweithdrefnau sefydledig ac arddel arferion
nepotaidd, gwnaeth y swyddog beryglu tegwch ac uniondeb y gweithdrefnau hyn. Mae’r camau penderfynol a gymerwyd yn atgoffa pawb am y goblygiadau sy’n codi pan fydd unigolion yn camddefnyddio eu hawdurdod. Mae’n hollbwysig bod safonau moesegol yn cael eu cynnal ym mhob agwedd ar fusnes er mwyn sicrhau ymddiriedaeth, tegwch, ac atebolrwydd.
Helpwch Tarian i fynd i’r afael â llygredigaeth yn y gweithle drwy roi gwybod i’r Heddlu ar 101 neu Crimestoppers ar 0800 555 111.
Allwch chi adnabod yr arwyddion? Ydych chi’n gwybod beth yw llygredigaeth? Rhowch gynnig ar y cwis i weld faint wyddoch chi am lygredigaeth.